Paratoi gofodwyr yfory!

Discovery Diaries – rhaglenni gwyddoniaeth arloesol i ysgolion cynradd sy’n cyfuno’r celfyddydau, gwyddoniaeth a’r gofod i ysbrydoli pob plentyn i gymryd rhan mewn dysgu pynciau STEM.

• Am ddim i ysgolion Cymru
• 150+ awr o wersi
• Trawsgwricwlaidd
• I ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr STEM!

Lawrlwythwch sampl

Mae Discovery Diaries yn defnyddio’r celfyddydau fel ffordd o gael disgyblion ysgol cynradd i ymwneud â STEM. Mae’n nhw’n seiliedig ar brosiectau gwyddoniaeth go iawn ac maent yn ysbrydoli dysgwyr drwy gynnwys arbenigwyr amrywiol sy’n gweithio ar draws y sector STEM.

Mae adnoddau dysgu llawn i gyd-fynd â rhaglenni Discovery Diaries a gallwch lawrlwytho’r rhaglenni am ddim oddi ar y wefan.

Mae fersiynau Cymraeg o’r Discovery Diaries nawr ar gael diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig. Mae haelioni ein partneriaid wedi ein galluogi ni i gyfieithu’r dyddiaduron a’r nodiadau addysgu i’r Gymraeg ac i roi 3000 copi o’r dyddiaduron i ysgolion Cymru, am ddim.

I ddarllen mwy am y Cwricwlwm newydd yng Nghymru dilynwch y linc yma

Dyddiadur Gofod Principia gan Lucy Hawking

Taith i’r Orsaf Ofod Ryngwladol gyda’r Gofodwr ESA Tim Peake! O hyfforddi i fod yn ofodwr i gynnal arbrofion ac arsylwi’r Ddaear, gall dysgwyr CA1 uwch/CA2 is (neu lefel gyfatebol) gymryd rhan yn nhaith Principia Tim Peake.

Adnoddau i’w Lawrlwytho

Dyddiadur Taith i Blaned Mawrth gan Lucy Hawking

Ydych chi’n barod am eich taith i’r Blaned Goch? Ewch ati i recriwtio criw, creu cerbyd defnyddiol, dadgodio a dadansoddi data, ac yna ddylunio cynefin ar blaned Mawrth. Perffaith ar gyfer disgyblion CA2 (neu lefel gyfatebol).

Adnoddau i’w Lawrlwytho

Dyddiadur y Gofod Dwfn gan Olivia Johnson

Dewch i ddatgelu cyfrinachau’r Bydysawd gyda Thelesgop Gofod James Webb! Wrth ddylunio a defnyddio telesgop gofod pwerus, bydd y disgyblion CA2 (neu lefel gyfatebol) yn dysgu am Gysawd yr Haul, golau, lliw, golau isgoch a llawer mwy.

Adnoddau i’w Lawrlwytho