Dyddiadur Taith i Blaned Mawrth

Ydych chi’n barod am eich taith i’r Blaned Goch? Ewch ati i recriwtio criw, creu cerbyd defnyddiol, dadgodio a dadansoddi data, ac yna ddylunio cynefin ar blaned Mawrth. Perffaith ar gyfer disgyblion CA2 (neu lefel gyfatebol).

Trosolwg O'r Gweithgareddau

CYFNODAU ALLWEDDOL 2

Archwilwyr Planed Mawrth…y Ganolfan Reoli sydd yma: mae angen eich help arnom! Ewch â’ch disgyblion CA2 (neu lefel gyfatebol) ar antur i’r Blaned Goch! Gan ddefnyddio Dyddiadur Planed Mawrth, bydd y disgyblion yn cynllunio ac yn mynd ar daith i chwilio am arwyddion o fywyd.  Mae ei 60+ awr o weithgareddau llythrennedd-STEM yn cynyddu Cyfalaf Gwyddoniaeth ac yn herio’r disgyblion i recriwtio criw, dyfeisio cerbyd robotig, dadgodio a dadansoddi data a dylunio cynefin ar blaned Mawrth. Mae ei ddull amlfoddol, ymarferol a phersonol yn meithrin hyder y dysgwyr ac yn ennyn eu diddordeb, tra byddant yn dysgu am bynciau STEM.

Cynllunio

Mae ein Pecyn Cymorth i Athrawon yn cynnwys cyfres o adnoddau i’ch helpu i gynllunio, cyflawni a gwerthuso eich rhaglen Dyddiadur Planed Mawrth.

Cyflwyniad Adnoddau i Athrawon

Pennod 1

Pam ydyn ni’n anfon pobl a robotiaid i’r gofod? Sut le fydd planed Mawrth, o’i chymharu â’r Ddaear? Oes unrhyw beth yn byw ar blaned Mawrth yn barod – ac os felly, sut mae’n edrych? Cyn mynd ar antur i’r Blaned Goch, cwblhewch yr heriau yn y bennod hon i baratoi ar gyfer unrhyw fywyd estron...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 2

Byddwch yn dysgu am blaned Mawrth ac yn penderfynu pwy sy’n dod gyda chi o’r Ddaear! Paciwch eich cês ac ewch ar fwrdd eich llong ofod – ar ôl gwneud yn siŵr mai eich cynlluniau chi yw’r gorau yng nghysawd yr haul.

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Cysawd yr Haul

Gweithgaredd 2.1: Adolygwch Gysawd yr Haul, gan ystyried cylchdroeon y planedau a sut maen nhw’n effeithio ar deithio yn y gofod

Pennod 3

Amser camu o’ch llong ofod ac ymestyn eich coesau ar ôl y daith hir! Edrychwch o’ch cwmpas a chofnodi eich canfyddiadau yn eich llyfr cofnod. Ond gwyliwch! Mae trowyntoedd llwch ar y gorwel...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 4

Barod i gynnal arbrofion gwyddoniaeth ar blaned Mawrth? Dyma eich cyfle chi (sy’n eironig gan mai ‘Opportunity’ (y Saesneg am ‘cyfle’) yw enw un o’r cerbydau pwysicaf ar blaned Mawrth). Gweithiwch gyda’ch cerbyd a’ch criw i wneud darganfyddiadau rhyfeddol am blaned Mawrth i’w hanfon yn ôl i’ r Ddaear...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 5

Mae’n bryd adeiladu sylfeini eich dinas – a bywyd pobl – ar blaned Mawrth! I adeiladu eich dinas a’r gymdeithas lle byddwch chi a’ch cyd-archwilwyr yn byw, bydd angen i chi ystyried pob agwedd ar fywyd. Beth sy’n gwneud dinas yn lle da i fyw? Beth sydd ei angen arnoch i’w hadeiladu? Beth fyddwch chi’n ei dyfu? A sut bydd eich ‘Mawrthiaid’ Newydd yn treulio eu hamser rhydd? Mae’n amser cynllunio...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 6

Hwre! Rydych chi wedi creu cynefin ar blaned Mawrth – chi yw’r bobl gyntaf erioed i fyw ar blaned y tu hwnt i’r Ddaear. Nawr mae angen i chi ddweud wrth bobl yn ôl ar y Ddaear sut brofiad yw byw ar blaned Mawrth a pham ddylen nhw fod yr un mor gyffrous am y peth ag yr ydych chi. Ydych chi’n barod i ryfeddu pobl yn ôl ar y Ddaear gyda’ch llwyddiannau...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon