Dyddiadur y Gofod Dwfn

Dewch i ddatgelu cyfrinachau’r Bydysawd gyda Thelesgop Gofod James Webb! Wrth ddylunio a defnyddio telesgop gofod pwerus, bydd y disgyblion CA2 (neu lefel gyfatebol) yn dysgu am Gysawd yr Haul, golau, lliw, golau isgoch a llawer mwy.

Trosolwg O'r Gweithgareddau

CYFNODAU ALLWEDDOL 2

Arsylwyr y gofod, ydych chi’n barod i ddatgelu cyfrinachau’r Bydysawd? Ewch ati i archwilio’r gofod gyda Thelesgop Gofod James Webb! Wrth ddylunio a defnyddio telesgop pwerus, bydd disgyblion CA2 (neu lefel gyfatebol) yn dysgu am Gysawd yr Haul, golau, lliw, golau isgoch a llawer mwy.  Mae’r rhaglen hon, sy’n cynnwys 64 o dudalennau ac adnoddau llawn i athrawon, yn grymuso addysgwyr nad ydynt yn arbenigwyr i addysgu STEM ac ennyn diddordeb y disgyblion drwy 60+ awr o ddysgu ymarferol, amlfoddol, personol. 

Cynllunio

Mae ein Pecyn Cymorth i Athrawon yn cynnwys cyfres o adnoddau i’ch helpu i gynllunio, cyflawni a gwerthuso eich rhaglen Dyddiadur y Gofod Dwfn.

Cyflwyniad Adnoddau i Athrawon

Pennod 1

Ydych chi’n barod i gwrdd â’r sêr? Mae’r daith hon yn debygol o’ch gwneud chi’n enwog, felly byddai’n syniad da dysgu am rai o seryddwyr a thechnolegau arloesol y gorffennol.

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Seryddiaeth Hynafol

Gweithgaredd 1.3: Nodi beth mae pobl wedi’i ddysgu dros amser o Gysawd yr Haul

Pennod 2

Dyma eich tro chi i serennu! Cyn dylunio telesgop, mae angen i chi wybod yn gyntaf beth yw’r wyddoniaeth y tu ôl I olau – y math y gallwn ei weld ac, yn arbennig, y math na allwn ei weld. Mae mwy i olau na’r hyn gallwn ei weld ar yr olwg gyntaf...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 3

Amdani i adeiladu! Mae eich telesgop yr un maint â chwrt tennis. Mae hynny’n FAWR. Bydd angen i chi feddwl yn ofalus am sut mae ei adeiladu er mwyn iddo agor allan yn ddiogel a gwneud ei waith yn dda.

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 4

I ffwrdd â ni! Bydd eich telesgop yn lansio mewn roced ac yna’n agor yn y gofod, gan gylchdroi yn y pen draw i’w safle parcio terfynol. Bydd angen i chi gynllunio’r broses hon yn ofalus drwy fod yn fanwl-gywir.

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 5

Mae eich holl waith caled wedi dwyn ffrwyth ac mae eich telesgop wrthi’n cylchdroi’n ddiogel ac yn casglu ei ddata cyntaf! Bydd angen sgiliau arsylwi craff arnoch chi i ddadansoddi’r data hwn ac i weld a allai unrhyw ran o’r data eich helpu i ganfod byd estron lle mae bywyd yn bodoli.

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 6

Mae eich telesgop wedi rhyfeddu cydwyddonwyr a pheirianwyr. Mae’n bryd i chi nawr rannu eich darganfyddiadau gyda’r byd. Bydd angen i chi fod yn greadigol wrth gyfathrebu’r holl bethau rydych chi wedi’u dysgu i bobl nad ydynt yn gwybod dim am y gofod.

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon