Dyddiadur Gofod Principia

Taith i’r Orsaf Ofod Ryngwladol gyda’r Gofodwr ESA Tim Peake! O hyfforddi i fod yn ofodwr i gynnal arbrofion ac arsylwi’r Ddaear, gall dysgwyr CA1 uwch/CA2 is (neu lefel gyfatebol) gymryd rhan yn nhaith Principia Tim Peake.

Trosolwg O'r Gweithgareddau

Cyfnodau Allweddol 1 a 2

Yn galw ar holl Brentisiaid y Gofod! Ydych chi’n barod i deithio i’r gofod gyda’r Gofodwr ESA Tim Peake? Mae Dyddiadur Gofod Principia, sy’n berffaith ar gyfer CA1 uwch/CA2 is (neu lefel gyfatebol), yn mynd â’r disgyblion ar daith i’r Orsaf Ofod Ryngwladol. O hyfforddi i fod yn ofodwyr i gynnal arbrofion ac arsylwi’r Ddaear o’r tu hwnt i’n hatmosffer, bydd y disgyblion yn cwblhau dros 60 awr o weithgareddau llythrennedd-STEM wrth iddynt ddarllen, ysgrifennu, dylunio, tynnu lluniau, arbrofi, codio a dadgodio.  Mae ei ddull amlfoddol, ymarferol a phersonol yn meithrin hyder y dysgwyr ac yn ennyn eu diddordeb, tra byddant yn dysgu am bynciau STEM.

Cynllunio

Mae ein Pecyn Cymorth i Athrawon yn cynnwys cyfres o adnoddau i’ch helpu i gynllunio, cyflawni a gwerthuso eich rhaglen Dyddiadur Gofod Principia.

Cyflwyniad Adnoddau i Athrawon

Cyn Lansio

Mae’n rhaid i ofodwyr fod yn ffit, yn iach ac yn hollol barod cyn iddynt fynd i’r gofod. Bu Tim yn hyfforddi ar gyfer ei daith am bedair blynedd cyn cael ei lansio i’r Orsaf Ofod Ryngwladol! Cwblhewch y bennod hon i wneud yn siŵr eich bod chi’n ffit i hedfan ac yn barod i ddechrau Prentisiaeth Principia yn y Gofod...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 1

Croeso i’r pad lansio! Mae’n bryd i ni adael y Ddaear. Ydych chi’n barod i lansio? Rydyn ni’n mynd i ail-fyw taith Tim Peake i’r gofod!

Mae’r amser lansio yn nesáu...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 2

Pa ieithoedd mae gofodwyr yn eu siarad ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol? Sut ydych chi’n gallu dweud wrth y byd sut brofiad yw byw yn y gofod? A beth sy’n digwydd pan fydd neges ddirgel yn cyrraedd, wedi’i hysgrifennu mewn cod?

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 3

Mae eich cartref newydd, yr Orsaf Ofod Ryngwladol, yn strwythur cymhleth sydd wedi’i adeiladu’n ofalus yn y gofod. Dewch i adnabod yr Orsaf Ofod drwy archwilio pob rhan o’r llong ofod a chreu eich diagram eich hun. A chofiwch y ffenestri, mae llawer i’w weld o’r gofod!

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 4

Mae’r Orsaf Ofod Ryngwladol yn fwy na dim ond llong ofod a chartref i ofodwyr, mae hefyd yn labordy lle bydd gofodwyr yn cynnal arbrofion yn y gofod. Allwch chi helpu Tim gyda’ch sgiliau gwyddoniaeth a darganfod?

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 5

Rydych chi wedi cyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol, wedi gweld y Ddaear o’r gofod ac wedi cynnal arbrofion gyda Tim, felly...ble nesaf?

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon

Pennod 6

Ofodwyr! Mae’n amser mynd adref.

Mae eich taith yn tynnu i’w therfyn, ond mae angen i chi lanio’n ddiogel ar y Ddaear o hyd. Dilynwch y camau nesaf i blotio eich llwybr adref a pharatoi ar gyfer bywyd ar y Ddaear unwaith eto...

Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i Athrawon