Cyfieithu rhaglen wyddoniaeth i ysgolion cynradd, sy’n astudio Tim Peake, er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ofodwyr yng Nghymru

Mae’n bleser gan y cyhoeddwr Curved House Kids gyhoeddi bod eu rhaglen wyddoniaeth hynod boblogaidd i ysgolion cynradd wedi cael ei chyfieithu i’r Gymraeg, gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr a gofodwyr. Bydd 3,000 o gopïau o Dyddiaduron Darganfod ar gael i ysgolion cynradd yng Nghymru i gefnogi eu hadnoddau addysgu STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Cyfieithu rhaglen wyddoniaeth i ysgolion cynradd, sy’n astudio Tim Peake, er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ofodwyr yng Nghymru

Mae’n bleser gan y cyhoeddwr Curved House Kids gyhoeddi bod eu rhaglen wyddoniaeth hynod boblogaidd i ysgolion cynradd wedi cael ei chyfieithu i’r Gymraeg, gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr a gofodwyr. Bydd 3,000 o gopïau o Dyddiaduron Darganfod ar gael i ysgolion cynradd yng Nghymru i gefnogi eu hadnoddau addysgu STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Asiantaeth Ofod y DU a’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, bydd pob un o’r tair rhaglen (Dyddiadur Gofod Principia gyda’r Gofodwr ESA Tim Peake gan Lucy Hawking, Dyddiadur Taith i Blaned Mawrth gan Lucy Hawking a Dyddiadur y Gofod Dwfn gan Dr Olivia Johnson) ar gael i ddysgwyr ac ysgolion cyfrwng Cymraeg, er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at adnoddau addysg blaenllaw, o safon ar thema’r gofod.

Dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru:

“Dysgu am y gofod yw un o brofiadau cyntaf plentyn o wyddoniaeth a thechnoleg, ac mae’n aml yn gam bach cyntaf tuag at frwdfrydedd gydol oes am bynciau STEM.

“Mae’r Dyddiaduron Darganfod yn enghraifft wych o sut gall disgyblaethau gwahanol, fel celf a gwyddoniaeth, ategu ei gilydd ac arwain at ddealltwriaeth ehangach a mwy ystyrlon drwy ein Cwricwlwm newydd.

“Rydw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r prosiect hwn fel bod y genhedlaeth nesaf o ofodwyr yng Nghymru yn gallu ei fwynhau yn Gymraeg hefyd!”

Bydd y fersiynau Cymraeg o’r Dyddiaduron Darganfod yn helpu ysgolion i groesawu’r cwricwlwm Cymraeg newydd, sy’n gobeithio rhoi’r sgiliau i blant ddod yn ddinasyddion byd-eang drwy astudio chwe maes dysgu allweddol, yn cynnwys gwyddoniaeth a thechnoleg. Gobaith y cwricwlwm, a fydd yn cael ei roi ar waith yn llawn ym mhob ysgol a lleoliad a gynhelir yng Nghymru erbyn 2022, yw rhoi’r hyblygrwydd i athrawon ddarparu gwersi mewn ffyrdd mwy creadigol, ac i blant allu addasu’n well mewn oes o globaleiddio a newidiadau technolegol cyflym.

Dywedodd yr awdur Lucy Hawking: 

“Mae hwyl a chreadigrwydd mor bwysig i ddysgu ac mae’r Dyddiaduron Gofod yn gyfle perffaith i ddisgyblion fwynhau pynciau STEM mewn ffordd arloesol ac ysbrydoledig. Rydw i mor falch eu bod yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg ac edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau creadigol a gwyddonol!”

Er mwyn sicrhau bod cynifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru yn gallu cael gafael ar y rhaglenni Cymraeg hyn, byddant ar gael i ysgolion yn rhad ac am ddim drwy wefan Discovery Diaries (discoverydiaries.org/cymraeg). Bydd cyfres o adnoddau addysgu a chynlluniau gwersi ar gael hefyd ynghyd â dros 60 o weithgareddau creadigol, trawsgwricwlaidd.

Wrth i’r dysgwyr gyflawni’r gweithgareddau, byddant yn cwrdd â thîm amrywiol o arbenigwyr STEM i’w hysbrydoli i ddychmygu eu hunain mewn gyrfaoedd STEM. Cadwch olwg am y fylcanolegwr Tamsin Mather, y seryddwr Sheila Kanian, y gwyddonydd offerynnau Pamela Klaassen a’r peiriannydd Piyar Samara Ratna.

Dywedodd Kristen Harrison, cyhoeddwr cyfres Dyddiaduron Darganfod: 

“Mae iaith yn ganolog i’r modd mae plant yn cysylltu hunaniaeth a diwylliant â’r byd ehangach, felly rydyn ni wrth ein bodd o allu cynnig y gyfres hon yn Gymraeg. Edrychwn ymlaen at weld dysgwyr a’u hathrawon yn cael eu herio, eu grymuso a’u hysbrydoli yn yr iaith Gymraeg.”

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, lluniau a chyfweliadau, cysylltwch â:

Rachel Powell (Cymraeg/Saesneg)
Ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus
Ffôn Symudol: +44 (0)771 266 3117
E-bost: rsp9977@gmail.com

Kristen Harrison (Saesneg)
Curved House Kids
Swyddfa Berlin
Ffôn Symudol: +49 162 431 6736
E-bost: kristen@thecurvedhouse.com
@curvedhousekids

Nodiadau i olygyddion

Gwybodaeth am Discovery Diaries

Crëwyd Dyddiadur Gofod Principia a Dyddiadur Taith i Blaned Mawrth gan Curved House Kids a’r awdur Lucy Hawking gyda chyllid a chefnogaeth gan Asiantaeth Ofod y DU, Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) a’r Gofodwr ESA Tim Peake. Ysgrifennwyd Dyddiadur y Gofod Dwfn gan Dr Olivia Johnson ac fe’i lansiwyd yn 2019, gyda chefnogaeth y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’r dyddiadur hwn yn defnyddio gwybodaeth arbenigwyr sy’n gweithio ar Delesgop Gofod James Webb.

Cafodd rhaglenni Dyddiaduron Darganfod eu lansio’n wreiddiol fel menter llythrennedd-STEM gyda’r nod o gael 500 o ysgolion cynradd i gymryd rhan yn nhaith Principia’r Gofodwr ESA Tim Peake i’r Orsaf Ofod Ryngwladol. Maen nhw wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda’u gweithgareddau rhyngweithiol di-ri sy’n annog plant i ddarllen, ysgrifennu, tynnu lluniau, ymchwilio, arbrofi a datrys problemau yn ogystal â chryfhau dysgu STEM, llythrennedd a llythrennedd gweledol.

Mae’r tair rhaglen hyn yn cynnwys nodiadau addysgu cynhwysfawr, cynlluniau gwersi, deunydd amlgyfrwng, cyflwyniadau PowerPoint a mwy. Mae gan athrawon y rhyddid i ddefnyddio’r deunyddiau o’r dechrau i’r diwedd, mewn ffordd linol, neu ddewis a dethol y gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’u cwricwlwm presennol.

Mae dros 4,000 o ysgolion ledled y DU yn defnyddio rhaglenni dysgu Dyddiaduron Darganfod i ategu eu hadnoddau addysgu STEM. Bydd Curved House Kids yn parhau i wneud yn siŵr bod y rhaglen wyddoniaeth ar gael i ystod ehangach o blant drwy gyfieithu’r deunyddiau addysgu i Tsieinëeg Syml.

GWYBODAETH AM CURVED HOUSE KIDS (www.curvedhousekids.com)

Mae Curved House Kids yn gyhoeddwr addysgol sy’n arbenigo ym maes dysgu STEM a llythrennedd yn y celfyddydau ar gyfer plant a phobl ifanc. Ein cenhadaeth ni yw sicrhau bod pob plentyn, ym mhob cwr o’r byd, yn cael ei rymuso i ddysgu, creu a chyfathrebu. Rydym yn cyfoethogi addysg drwy wneud pynciau heriol – fel gwyddoniaeth a llythrennedd – yn gyffrous ac yn hawdd eu deall. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgorffori’r celfyddydau mewn addysg a thrwy weithio gyda phartneriaid o’r un anian â ni, sy’n gwerthfawrogi dysgu, creadigrwydd ac arloesi.

You might also like...