Dyddiadur Gofod Principia
Taith i’r Orsaf Ofod Ryngwladol gyda’r Gofodwr ESA Tim Peake! O hyfforddi i fod yn ofodwr i gynnal arbrofion ac arsylwi’r Ddaear, gall dysgwyr CA1 uwch/CA2 is (neu lefel gyfatebol) gymryd rhan yn nhaith Principia Tim Peake.
Cyfnodau Allweddol 1 a 2
Cynllunio
Mae ein Pecyn Cymorth i Athrawon yn cynnwys cyfres o adnoddau i’ch helpu i gynllunio, cyflawni a gwerthuso eich rhaglen Dyddiadur Gofod Principia.
Cyflwyniad Adnoddau i AthrawonCyn Lansio
Mae’n rhaid i ofodwyr fod yn ffit, yn iach ac yn hollol barod cyn iddynt fynd i’r gofod. Bu Tim yn hyfforddi ar gyfer ei daith am bedair blynedd cyn cael ei lansio i’r Orsaf Ofod Ryngwladol! Cwblhewch y bennod hon i wneud yn siŵr eich bod chi’n ffit i hedfan ac yn barod i ddechrau Prentisiaeth Principia yn y Gofod...
Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i AthrawonPennod 1
Croeso i’r pad lansio! Mae’n bryd i ni adael y Ddaear. Ydych chi’n barod i lansio? Rydyn ni’n mynd i ail-fyw taith Tim Peake i’r gofod!
Mae’r amser lansio yn nesáu...
Pennod 2
Pa ieithoedd mae gofodwyr yn eu siarad ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol? Sut ydych chi’n gallu dweud wrth y byd sut brofiad yw byw yn y gofod? A beth sy’n digwydd pan fydd neges ddirgel yn cyrraedd, wedi’i hysgrifennu mewn cod?
Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i AthrawonPennod 3
Mae eich cartref newydd, yr Orsaf Ofod Ryngwladol, yn strwythur cymhleth sydd wedi’i adeiladu’n ofalus yn y gofod. Dewch i adnabod yr Orsaf Ofod drwy archwilio pob rhan o’r llong ofod a chreu eich diagram eich hun. A chofiwch y ffenestri, mae llawer i’w weld o’r gofod!
Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i AthrawonPennod 4
Mae’r Orsaf Ofod Ryngwladol yn fwy na dim ond llong ofod a chartref i ofodwyr, mae hefyd yn labordy lle bydd gofodwyr yn cynnal arbrofion yn y gofod. Allwch chi helpu Tim gyda’ch sgiliau gwyddoniaeth a darganfod?
Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i AthrawonPennod 5
Rydych chi wedi cyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol, wedi gweld y Ddaear o’r gofod ac wedi cynnal arbrofion gyda Tim, felly...ble nesaf?
Gweithgareddau i Ddisgyblion Adnoddau i AthrawonPennod 6
Ofodwyr! Mae’n amser mynd adref.
Mae eich taith yn tynnu i’w therfyn, ond mae angen i chi lanio’n ddiogel ar y Ddaear o hyd. Dilynwch y camau nesaf i blotio eich llwybr adref a pharatoi ar gyfer bywyd ar y Ddaear unwaith eto...